Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, Llun: PA
Fe allai’r rhai oedd yn feirniadol o Jeremy Corbyn, gael eu croesawu nôl i gabinet yr wrthblaid os yw’n ennill y gystadleuaeth am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, meddai ei gefnogwyr.

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar faterion tramor Emily Thornberry bod ’na ddyletswydd ar ASau “i weithio gyda’i gilydd” er mwyn y Blaid Lafur, tra bod canghellor cysgodol Llafur, John McDonnell, wedi dweud yr hoffai weld Owen Smith, yr unig ymgeisydd arall yn y ras am yr arweinyddiaeth, yn dychwelyd i’r cabinet.

Ond fe awgrymodd Emily Thornberry y gallai aelodau o gabinet yr wrthblaid gael eu hethol gan aelodau’r Blaid Lafur, a allai gryfhau sefyllfa cefnogwyr Jeremy Corbyn oherwydd ei boblogrwydd gyda’r aelodau ar lawr gwlad.

Er gwaetha’r ffaith bod Owen Smith, AS Pontypridd, yn mynnu y gallai ddod yn arweinydd ar 24 Medi, Corbyn yw’r ffefryn i gadw’i swydd, gan arwain at ddyfalu y gallai nifer o ASau blaenllaw a oedd wedi gadael cabinet yr wrthblaid, geisio dychwelyd.