Y Prif Weinidog Theresa May. Llun; Hannah McKay/Gwifren PA
Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi lansio archwiliad o wasanaethau cyhoeddus er mwyn mynd i’r afael ag achosion o annhegwch ar sail hil.

Mae hi wedi gorchymyn adrannau o’r Llywodraeth i ddarganfod a chyhoeddi gwybodaeth ar yr amrywiaeth mewn canlyniadau mewn gwahanol feysydd gan gynnwys iechyd, addysg a chyflogaeth.

Nod yr archwiliad yw rhoi cyfle i bawb weld sut mae eu hil yn effeithio’r ffordd y cânt eu trin gan wasanaethau cyhoeddus.

“Rwyf yn lansio archwiliad i edrych ar anghydraddoldeb hiliol yn ein gwasanaethau cyhoeddus,” meddai Theresa May.

“Bydd yn tynnu sylw at y gwahaniaethau mewn canlyniadau i bobl o wahanol gefndiroedd ym mhob maes o iechyd i addysg, gofal plant, lles, cyflogaeth, sgiliau a chyfiawnder troseddol.

“Bydd yr archwiliad yn datgelu gwirioneddau anodd, ond ni ddylem ymddiheuro am daflu goleuni ar anghyfiawnder mewn ffordd na wnaed erioed o’r blaen. Dyna’r unig ffordd y gallwn ni wneud i’r wlad weithio i bawb, ac nid i leiafrif breintiedig yn unig.”

Enghreifftiau

Mae’r llywodraeth yn nodi’r enghreifftiau canlynol i ddangos gwahaniaethau mawr yn y ffordd y caiff pobl eu trin ar sail eu hil:

  • os ydych o gefndir Du Caribîaidd, rydych deirgwaith yn fwy tebygol o gael eich gwahardd yn barhaol o’r ysgol na’ch cyd-ddisgyblion
  • os ydych yn ddynes ddu, rydych saith gwaith yn fwy tebygol o gael eich cadw o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl na dynes wen
  • mae’r gyfradd o bobl mewn gwaith i leiafrifoedd ethnig yn 10 pwynt canran is na’r cyfartaledd cenedlaethol
  • mae pobl o aelwydydd lleiafrifoedd ethnig bron ddwywaith yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi cymharol â phobl wyn.

Mae’r archwiliad am geisio dangos anfanteision sy’n cael eu dioddef gan bobl ddosbarth gweithiol gwyn hefyd. Mae bechgyn dosbarth gweithol gwyn, er enghraifft, yn llai tebygol o fynd i’r brifysgol nag unrhyw grŵp arall.

Nid yw’r math yma o wybodaeth yn cael ei gasglu’n systematig gan wasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd.