Mae beiciwr modur wedi’i ddwyn i’r ddalfa wedi i blentyn gael ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Aberdeen.

Mae bachgen 10 oed yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn y ddamwain yn ardal Kincorth.

Roedd beic modur Kawasaki lliw gwyrdd yn rhan o’r gwrthdrawiad am 3.15yp ddoe.

Mae Heddlu’r Alban yn dal i ymchwilio i’r digwyddiad.