Mae heddlu Twrci wedi cynnal cyrchoedd ar 44 o gwmnïau yn y wlad, wrth ymchwilio i mewn i bwy oedd y tu ôl i’r ymdrech i gynnal coup milwrol yn y wlad y mis diwetha’.

Mae’r busnesau’n cael eu hamau o ariannu mudiad y clerigwr o America, Fethullah Gulen, ac mae llywodraeth Twrci yn honni mai fo oedd y tu ôl i’r ymdrech i wthio’r arlywydd ac eraill o’u swyddi ar Orffennaf 15.

Fe ddaw’r cyrchoedd yn ardaloedd Umraniye ac Uskudar o Istanbul wedi i’r awdurdodau gyhoeddi gwarantau i arestio 120 o bobol fusnes fel rhan o’r ymchwiliad.

Ers Gorffennaf 15, mae mwy na 35,000 o bobol wedi cael eu dwyn i’r ddalfa i gael eu holi, tra bod degau o filoedd o bobol eraill wedi cael eu diswyddo o’u gwaith o fewn y gwasanaeth barnwrol, y wasg, byd addysg, bys iechyd, y fyddin a llywodraeth leol.