Mae Nigel Farage wedi awgrymu ei fod yn barod i ddychwelyd fel arweinydd UKIP pe na bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe ymddiswyddodd yn dilyn y canlyniad, a hynny am yr ail waith.

Ymddiswyddodd yn dilyn canlyniad Etholiad Cyffredinol 2015, cyn dychwelyd yn ddiweddarach.

Ond mae’n dweud ei fod yn gobeithio na fydd rhaid iddo fe ddychwelyd unwaith yn rhagor y tro hwn, ac y bydd Llywodraeth Prydain yn gwireddu eu haddewid i ddechrau ar y trafodaethau i weithredu Cymal 50.

Dywedodd Farage: “Pe na bai Brexit yn digwydd, yna byddai’n rhaid i fi feddwl yn ofalus am blymio i mewn unwaith eto. Ond gobeithio na fydd rhaid i fi.”

Ychwanegodd ei fod yn cydymdeimlo â’r cyn-Brif Weinidog David Cameron pan fu’n rhaid iddo ymddiswyddo yn dilyn y refferendwm ar Ewrop, ond nad oedd yn teimlo’r un fath am y cyn-Ganghellor George Osborne.

“Byddwn i wedi’i lusgo fe allan gerfydd ei war.”