Jeremy Corbyn - ei dynged yn nwylo'r Llys? (Rweedland CCA4.0)
Fe allai canlyniad ras arweinyddiaeth y Blaid Lafur gael ei benderfynu am dri o’r gloch y prynhawn yma.

Dyna pryd y mae disgwyl i farnwyr Llys Apêl benderfynu a gaiff degau o filoedd o aelodau newydd yr hawl i bleidleisio yn yr ornest rhwng yr arweinydd presennol, Jeremy Corbyn, a’r heriwr Owen Smith, Aelod Seneddol Pontypridd.

Fe fyddan nhw’n cadarnhau neu wyrdroi penderfyniad yr Uchel Lys ynghynt yr wythnos yma – o blaid gadael i’r aelodau newydd bleidleisio.

Y disgwyl yw bod y rhan fwya’ o’r aelodau hynny yn gefnogol i Jeremy Corbyn.

Y cefndir

Roedd pump aelod wedi herio penderfyniad gan Bwyllgor Gwaith y Blaid Lafur yn gwrthod pleidlais i aelodau a oedd wedi ymuno ar ôl mis Ionawr 2016.

Roedd y penderfyniad hwnnw wedi ei wneud ym mis Gorffennaf ac, yn ôl yr Uchel Lys, roedd yn torri cytundeb rhwng y blaid a’r aelodau.

Dadl cyfreithwyr y Blaid Lafur ei hun yw mai’r Pwyllgor Gwaith sy’n gosod y rheolau ac nad oes dim i’w rhwystro nhw rhag gwneud penderfyniad o’r fath.