Mae undeb llafur Unsain wedi cyhoeddi ei gefnogaeth i Jeremy Corbyn yn y ras i fod yn arweinydd nesa’r Blaid Lafur.

Gwnaeth yr undeb y penderfyniad yn dilyn trafodaethau ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, ac ymgynghoriad aelodau gysylltiedig â’r Blaid Lafur.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Dave Prentis bod Jeremy Corbyn wedi cadw cefnogaeth mwyafrif yr aelodau er bod lleiafrif sylweddol yn cefnogi Owen Smith.

Allan o’r 20,190 o aelodau wnaeth gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar-lein, derbyniodd Jeremy Corbyn 58% o’r pleidleisiau o’i gymharu i 42% i Owen Smith.

Fe wnaeth Unsain gefnogi Jeremy Corbyn yn y bleidlais arweinyddiaeth y llynedd hefyd.

Mae undebau eraill sy’n cefnogi Jeremy Corbyn yn cynnwys Unite, Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, ac undebau rheilffyrdd ASLEF a TSSA, tra bod Owen Smith wedi ennill cefnogaeth y GMB, undeb Cymuned, a’r undeb gweithwyr dur Usdaw.