Mae dynes yn ei 60au wedi marw a phump wedi’u hanafu yn Llundain yn dilyn ymosodiad gan ddyn â chyllell ar Sgwâr Russell yng nghanol y ddinas neithiwr.

Mae’r heddlu’n ceisio darganfod a oedd yr ymosodiad yn ymwneud a brawychiaeth ac mae’r uned gwrth-frawychiaeth yn gysylltiedig a’r ymchwiliad.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad am tua 10:30yh nos Fercher yn dilyn adroddiadau bod dyn gyda chyllell yn ymosod ar bobl.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon, bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle. Cafodd dwy ddynes a thri dyn hefyd eu hanafu yn y digwyddiad. Dywed Scotland Yard bod dau o’r bobl yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty a bod tri bellach wedi gadael yr ysbyty.

Cafodd dyn 19 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn fuan wedyn. Cafodd ei gadw yn yr ysbyty dan ofal yr heddlu ar ôl i blismyn ddefnyddio gwn Taser arno ac mae bellach yn cael ei gadw yn y ddalfa yn ne Llundain.

Mae rhagor o swyddogion arfog ar batrôl ar strydoedd Llundain y bore ‘ma i geisio tawelu meddyliau pobol y ddinas wrth i’r  awdurdodau geisio darganfod beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r ymosodiad. Maen nhw wedi awgrymu bod “problemau iechyd meddwl yn ffactor allweddol” yn yr ymosodiad.

‘Byddwch yn wyliadwrus’ – neges Maer Llundain

Fe alwodd Maer Llundain, Sadiq Khan, ar y cyhoedd i beidio â chynhyrfu, ac i fod “ar ei gwyliadwriaeth.”

“Rwyf wedi siarad â’r Comisiynydd, a’r Dirprwy Gomisiynydd, sydd wedi fy sicrhau bod ein plismyn yn gweithio’n galed iawn i ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd ac i gadw’r gweddill ohonom yn ddiogel,” meddai.

“Cafodd dyn ei arestio yn y digwyddiad. Mae’r heddlu wedi siarad ag ef ac yn ceisio cael y ffeithiau llawn, gan gynnwys ei gymhelliad am yr ymosodiad.”

“Rwy’n galw ar bobol Llundain i beidio cynhyrfu ac i aros yn wyliadwrus. Rhowch wybod i’r heddlu am unrhyw beth amheus.

“Mae gennym ni oll rôl hanfodol i’w chwarae fel llygaid a chlustiau ein heddlu a’n gwasanaethau diogelwch ac i helpu i sicrhau bod Llundain yn cael ei diogelu.”