(llun: PA)
Mae’r arolwg barn diweddaraf yn awgrymu y byddai pobl yr Alban yn pleidleisio yn erbyn annibyniaeth o 53% i 47% pe bai refferendwm arall.
Mae hyn yn dangos symudiad o 1% tuag at annibyniaeth o gymharu â’r arolwg diwethaf tebyg gan YouGov ym mis Mai, cyn y bleidlais Brexit.
Yn y refferendwm ar 23 Mehefin, pleidleisiodd 62% o bobl yr Alban o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Yn yr arolwg diweddaraf, dywedodd 46% y byddai’n well ganddyn nhw fyw mewn Alban a fyddia’n rhan o’r Deyrnas Unedig ar ôl i honno adael yr Undeb Ewropeaidd, o gymharu â 37% y byddai’n well ganddyn nhw fyw mewn Alban annibynnol a oedd yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Sefyllfa ‘gymhleth’
Er nad yw ymchwil YouGov yn dangos symudiad gwirioneddol tuag at annibyniaeth yn sgil y bleidlais Brexit, dywed Matthew Smith ar ran y cwmni arolygon fod y sefyllfa’n ‘gymhleth’.
“Rhaid cofio nad oes refferendwm ar fin digwydd ar hyn o bryd,” meddai.
“Gallai llawer newid dros y blynyddoedd nesaf. Nid yw Erthygl 50 wedi ei gweithredu eto ac unwaith y daw manylion o gytundeb Brexit i’r amlwg efallai y bydd yn newid cyd-destun y ddadl annibyniaeth.”