Mike Ashley dan y lach
Mae aelodau seneddol wedi beirniadu’r amodau gwaith o fewn y cwmni chwaraeon Sports Direct, oedd yn cynnwys cynnig cytundebau newydd i weithwyr yn gyfnewid am ffafrau rhywiol.

Dywedodd Pwyllgor Busnes San Steffan wrth y perchennog, Mike Ashley – sy’n gadeirydd ar Glwb Pêl-droed Newcastle – mai fe sy’n gyfrifol am yr amodau gwaith “gwarthus” yn siopau a warws y cwmni yn Swydd Derby.

Dywedodd y pwyllgor nad yw’r gweithwyr yn cael eu trin “fel bodau dynol”, a bod tystiolaeth a gafodd ei chyflwyno gan ddwy asiantaeth ar ran y cwmni yn “ofnadwy o wael” ac yn anghywir mewn rhai achosion.

Ymgais oedd hyn, meddai’r pwyllgor, i’w camarwain.

Dywedodd y pwyllgor nad oedd gweithwyr yn derbyn yr isafswm cyflog cywir, a’u bod yn cael eu cosbi am faterion di-bwys, er enghraifft cymryd brêc i gael diod neu fynd yn sâl.

Clywodd y pwyllgor hefyd fod rhai gweithwyr wedi cael addewid cytundeb newydd yn gyfnewid am ffafrau rhywiol, ac roedd rheolau iechyd a diogelwch yn cael eu torri’n gyson.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Iain Wright fod yr amodau gwaith yn ymdebygu i “wyrcws Fictorianaidd”.

Dywedodd ei bod yn “anghredadwy” nad oedd Mike Ashley, fel perchennog, yn ymwybodol o’r sefyllfa, a bod y cwmni’n talu £50 miliwn i ddwy asiantaeth oedd fel pe na baen nhw’n deall cyfreithiau cyflogaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Sports Direct mai eu polisi yw “trin staff gydag urddas a pharch”.