Francois Hollande (Llun: Pablo Tupin-Noriega CCA 4.0)
Cyn ei gyfarfod cyntaf gyda’r Prif Weinidog newydd Theresa May, mae Arlywydd Ffrainc wedi rhybuddio na ddylai trafodaethau Brexit “lusgo ymlaen”.

Dywedodd Francois Hollande y dylai trafodaethau gychwyn cyn gynted a bo modd, a’r byrraf yw’r trafodaethau y gorau.

Wrth ymateb i’w sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran Theresa May y byddai’r cyfarfod gyda Francois Hollande heno yn rhoi cyfle iddyn nhw “eistedd i lawr a siarad wyneb yn wyneb” ac i’r Prif Weinidog amlinellu ei chynlluniau am Brexit.

Daeth sylwadau Francois Hollande ar ôl i Theresa May gyfarfod Canghellor yr Almaen ddoe. Dywedodd Angela Merkel y dylai Prydain “gymryd amser” i baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Theresa May eisoes wedi dweud ei bod hi’n annhebygol y bydd y broses yn cychwyn cyn diwedd 2016.