Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae Jeremy Corbyn wedi lansio ei ymgyrch i ddal ei afael ar arweinyddiaeth y Blaid Lafur heddiw gydag addewid i fynd i’r afael â gwahaniaethu yn y gweithle.
Yn ei araith mae’n dweud y bydd yn gwneud hyn drwy orfodi cwmnïau gyda mwy na 21 aelod o staff i gyhoeddi manylion cyflogau ac amodau gweithwyr fel bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal.
Mae arweinydd y Blaid Lafur yn wynebu her am ei arweinyddiaeth gan AS Pontypridd Owen Smith ond mae’n debyg y bydd Jeremy Corbyn yn defnyddio’r ymgyrch i nodi sut y bydd llywodraeth Lafur yn mynd i’r afael â phump o broblemau Prydain gyfoes – anghydraddoldeb, esgeulustod, ansicrwydd, rhagfarn a gwahaniaethu.
‘Anghyfiawnderau’
Mewn araith yn Llundain mae’n amlinellu sut y bydd Llafur yn ymgyrchu yn erbyn yr anghyfiawnderau fel gwrthblaid yn ogystal ag esbonio rhai o’r mesurau y bydd y llywodraeth Lafur nesaf yn ei chymryd i’w goresgyn.
Daw’r araith wrth i gefnogwyr Jeremy Corbyn gredu bod ei ymgyrch wedi cael hwb yn sgil cynnydd yn nifer y cefnogwyr newydd sy’n gallu pleidleisio yn y bleidlais am arweinyddiaeth Llafur.
Mae’r Blaid Lafur wedi derbyn dros 180,000 o geisiadau i gofrestru fel cefnogwyr cofrestredig – gyda phob unigolyn yn talu £25 am y fraint – sydd wedi codi mwy na £4.5 miliwn i goffrau blaid.
Dywedodd llefarydd ar ran Jeremy Corbyn ei bod hi’n “rhesymol tybio” bod y rhan fwyaf o’r cofrestriadau newydd yn dod gan gefnogwyr y gwleidydd asgell chwith.
Ond mewn arwydd o’r rhaniadau o fewn y Blaid Lafur, fe wnaeth rhyw 70% o ASau Llafur yn Nhŷ’r Cyffredin enwebu Owen Smith ar gyfer yr arweinyddiaeth, yn ogystal â hanner ASEau Llafur.