Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae Jeremy Corbyn yn debygol o wynebu un ymgeisydd i’w herio am arweinyddiaeth y Blaid Lafur ar ôl i’r ddau gystadleuydd gynnal trafodaethau ynglŷn â’r ffordd orau i’w ddisodli.

Mae’r ddau gyn-aelod o gabinet yr wrthblaid, Angela Eagle ac Owen Smith, wedi dod i “ddealltwriaeth” ynglŷn â’r ffordd orau i orfodi Jeremy Corbyn i ildio’r awenau.

Fe fydd y penderfyniad ynglŷn â pha un o’r ddau fydd yn ildio i’r llall yn cael ei gyhoeddi unwaith iddi ddod yn amlwg pa un sydd wedi cael y nifer fwyaf o enwebiadau gan Aelodau Seneddol y blaid.

Serch hynny mae  arolwg o aelodau’r blaid yn awgrymu y byddai Jeremy Corbyn yn debygol o sicrhau buddugoliaeth  oherwydd y gefnogaeth sylweddol sydd ganddo ar lawr gwlad, a hynny er gwaethaf ymddiswyddiadau nifer o aelodau meinciau blaen y blaid a phleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn.

Yn ôl arolwg YouGov ar gyfer The Times, petai’r tri ymgeisydd yn sefyll fe fyddai Jeremy Corbyn yn sicrhau 54% o’r pleidleisiau, Angela Eagle yn cael 21% ac Owen Smith yn sicrhau 15%.

Cafodd 1,019 o aelodau’r blaid eu holi ar gyfer yr arolwg.

Roedd y rhwygiadau o fewn y blaid yn amlwg neithiwr yn ystod y bleidlais am adnewyddu Trident gyda’r mwyafrif yn cefnogi’r Llywodraeth, ond eraill, gan gynnwys Jeremy Corbyn, yn erbyn, a rhai yn ymatal eu pleidlais.