Llong danfor Trident (Llun: bodgebrooks CCA 2.0)
Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid cadw arfau niwclear y Deyrnas Unedig gyda mwyafrif o 355 o blaid.

Ond mae’r bleidlais wedi amlygu rhwygiadau o fewn y Blaid Lafur gyda 140 o ASau Llafur yn pleidleisio gyda’r Llywodraeth, a 47 ohonynt, gan gynnwys eu harweinydd, Jeremy Corbyn, yn mynd yn erbyn.

Ymhlith yr ASau Llafur a oedd wedi pleidleisio o blaid roedd Owen Smith, AS Pontypridd, ac Angela Eagle sy’n herio Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y blaid.

Dim ond tri AS Llafur o Gymru oedd wedi pleidleisio yn erbyn – Ann Clwyd, Paul Flynn a Nia Griffith.

Roedd gan aelodau’r blaid bleidlais rydd ar y mater.

Roedd cynnig Llywodraeth Prydain yn cynnwys gwario tua £40 biliwn ar adnewyddu Trident, gyda phedair llong danfor newydd yn dod yn lle’r un presennol.

Cafodd y bleidlais ei phasio gyda 471 o blaid a 116 yn erbyn – gyda’r Ceidwadwr a’r cyn-weinidog, Crispin Blunt, ymhlith y gwrthwynebwyr.

Yn erbyn

Pleidleisiodd  tri AS Plaid Cymru yn erbyn y cynnig, ynghyd â 52 o aelodau’r SNP, saith Democrat Rhyddfrydol, dau annibynnol ac Aelod Seneddol y Blaid Werdd, Caroline Lucas.

O blaid

Ymhlith y mwyafrif oedd o blaid oedd 322 o Geidwadwyr, 140 o’r Blaid Lafur, pump o’r Blaid Unoliaethol Democrataidd, dau o Blaid Unoliaethol Ulster, aelod Ukip, Douglas Carswell, a’r annibynnwr, Simon Danczuk.

Fe wnaeth un aelod Llafur, Rupa Huq, bleidleisio’r ddwy ffordd, gan olygu ei bod yn ymatal.

Ni fydd angen adnewyddu Trident eto nes y 2060au.

Fe wnaeth y ddadl cyn y bleidlais bara chwe awr, gyda’r Prif Weinidog, Theresa May, yn dweud y byddai’n “gambl ddiofal” i beidio ag adnewyddu system arfau niwclear y wlad.

‘Cyflymu’ annibyniaeth i’r Alban

Fe rybuddiodd Angus Robertson o’r SNP y byddai adnewyddu Trident yn dod ag annibyniaeth i’r Alban yn gynt.

“Os yw’r Alban yn genedl, ac mae’r Alban yn genedl, dyw hi ddim yn sefyllfa arferol i’r wladwriaeth ddiystyru dymuniadau’r bobl yn gyfan gwbl,” meddai.

“Mae gan y Llywodraeth hon ddiffyg democratiaeth yn yr Alban, a gyda’r bleidlais heddiw ar Trident, mae’n mynd i fynd yn waeth, nid yn well.

“Penderfyniad pobol yr Alban fydd i benderfynu p’un a ydyn yn cael ein hamddiffyn yn iawn yn Ewrop a chael ein cynrychioli’n well gan Lywodraeth rydym yn ei hethol -mae’r diwrnod yn prysur agosáu.”