Theresa May, oedd yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, yn dweud y gallai Brexit weithio o blaid Prydain
Mae llywodraeth Awstralia wedi datgan eu bod nhw’n awyddus i sefydlu cytundeb masnachu â Phrydain yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r newyddion yn hwb i’r Prif Weinidog newydd, Theresa May wrth iddi ddechrau ar ei gwaith yn dilyn ymddiswyddiad David Cameron.
Ddydd Sadwrn, bu May a Phrif Weinidog Awstralia, Malcolm Turnbull mewn trafodaethau dros y ffôn.
Dywedodd May, oedd wedi ymgyrchu dros aros yn Ewrop, fod y sgwrs wedi bod yn “galonogol iawn” ac y gallai’r penderfyniad i adael weithio o blaid Prydain.
Mae’r Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol Liam Fox eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ddod o hyd i gytundebau newydd, ond mae Theresa May yn cydnabod na fydd y gwaith ffurfiol yn dechrau tra bod Prydain yn dal yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Theresa May: “Mae’n galonogol iawn fod un o’n partneriaid rhyngwladol agosaf eisoes yn ceisio sefydlu’r fath gytundeb.
“Mae hyn yn dangos y gallwn ni wneud i Brexit weithio i Brydain…”
Ddydd Gwener, dywedodd May wrth Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon na fyddai Cymal 50 yn cael ei weithredu cyn cael cytundeb gweddill Prydain.
Yn y cyfamser, mae’r Ysgrifennydd Brexit David Davis wedi rhybuddio y gallai trigolion o wledydd yr Undeb Ewropeaidd gael eu hatal rhag aros yng ngwledydd Prydain yn barhaol, hyd yn oed os ydyn nhw’n cyrraedd cyn i Brydain adael.
Mae Theresa May eisoes wedi rhybuddio y gallai nifer y mewnfudwyr gynyddu cyn i Gymal 50 gael ei weithredu.