(llun: PA)
Mae disgwyl y bydd Banc Lloegr yn torri cyfraddau llog o 0.5% i 0.25% yr wythnos yma yn sgil pryderon cynyddol am ragolygon ariannol Prydain.

Dywed economegwyr y gallai’r cyfraddau ddisgyn ymhellach i ddim ym mis Awst, gydag arolygon diwydiannol yn dangos arafu sylweddol ers y bleidlais Brexit y mis diwethaf.

Mae’r bunt hefyd wedi disgyn i’w lefel isaf yn erbyn y doler ers 1985.

“Gyda data economaidd yn dirywio a marchnadoedd yn dal yn nerfus, mae’n ymddangos y bydd Pwyllgor Polisi Ariannol y Banc yn barnu bod angen gweithredu ar unwaith,” meddai Ben Brettell o’r cwmni o economegwyr Hargeaves Lansdown.

Mae’r cyfraddau llog wedi aros ar 0.5% ers mis Mawrth 2009, a’r dyfalu yw y gall Banc Lloegr benderfynu cyflwyno mesurau eraill hefyd fel argraffu mwy o arian i ymateb i’r argyfwng.