Tony Blair a George Bush, Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd (Llun PA)
Mae’r cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, wedi dweud unwaith eto ei fod wedi gwneud y penderfyniad iawn wrth anfon milwyr gwledydd Prydain i ymladd yn Irac – er gwaetha’r colledion a’r blynyddoedd o ddioddefaint sydd wedi bod yno.

Mewn cyfweliad hir gyda’r BBC yn sgil cyhoeddi adroddiad damniol Chilcot, fe fynnodd y byddai’r sefyllfa’n waeth pe na bai camau wedi eu cymryd i ddisodli unben y wlad ar y pryd, Saddam Hussein.

“Dw i’n gwirioneddol gredu, nid yn unig ein bod wedi gweithredu am gymhellion da ond dw i’n credu’n ddidwyll y bydden ni mewn sefyllfa waeth pe na baen ni ddim wedi gweithredu,” meddai ar y rhaglen Today.

Ei dri rheswm am hynny oedd fod “cannoedd o filoedd” wedi eu lladd gan Saddam Hussein, y byddai wedi mynd yn ôl at arfogi ac y byddai wedi ceisio sathru gwrthryfeloedd y ‘Gwanwyn Arabaidd’ a chreu sefyllfa “waeth na Syria”.

Addo cefnogi’r Unol Daleithiau

Fe gafodd ei holi’n galed am neges a anfonodd at Arlywydd yr Unol Daleithiau fisoedd cyn y rhyfel yn dweud y byddai’n cefnogi America “doed a ddêl” ac yn holi a oedden nhw eisiau cynghrair i’w helpu.

Roedd yn mynnu mai’r nod oedd gohirio’r gweithredu milwrol a cheisio cael cefnogaeth y Cenhedloedd Unedig er mwyn chwilio am ateb heddychlon.

“Ro’n i eisiau gwneud yn siŵr,” meddai, “nad oedd America yn teimlo’n unig ac nad oedd hi’n teimlo bod rhaid iddi fwrw ymlaen ar ei phen ei hun.”

Roedd yr un neges yn sôn am ddisodli Hussein (er fod hynny’n groes i gyfraith ryngwladol) ac fe ddywedodd ei fod yn gwybod ers blynyddoedd mai un o amcanion yr Unol Daleithiau oedd cael gwared ar Saddam Hussein.

Camgymeriadau yn y broses

Fe gyfaddefodd Tony Blair fod camgymeriadau wedi eu gwneud yn y prosesau wrth baratoi am y rhyfel ac y dylai fod wedi herio honiadau anghywir y gwasanaethau cudd am arfau Saddam Hussein – ond roedd yn eu credu, meddai.

Fe wadodd hefyd fod y Llywodraeth wedi methu ag arfogi milwyr gwledydd Prydain yn iawn – roedd pob cais wedi ei dderbyn, meddai.

Wrth fynegi ei ofid am y colledion a’r marwolaethau, fe ofynnodd i bobol ystyried ei sefyllfa ar y pryd ac anhawster gwneud penderfyniadau o’r fath.