Tony Blair
Cynyddu mae’r galwadau ar Tony Blair i fynd gerbron llys am ei rôl yn y penderfyniad i fynd a Phrydain i ryfel gydag Irac, yn sgil adroddiad damniol Syr John Chilcot ddoe.

Mae’r cyn-Brif Weinidog eisoes wedi cael ei hysbysu bod teuluoedd rhai o’r milwyr fu farw yn Irac yn ystyried camau cyfreithiol yn ei erbyn.

Yn yr adroddiad datgelwyd bod Tony Blair wedi dweud wrth Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd, George Bush, y byddai’n ei gefnogi “doed a ddêl” wyth mis cyn i’r rhyfel ddechrau yn 2003.

Yn y cyfamser mae arweinydd Tŷ’r Cyffredin yr wrthblaid, Paul Flynn wedi dweud bod yr adroddiad yn “condemnio’n llwyr” benderfyniad “ofnadwy” Blair i anfon milwyr o Brydain i helpu milwyr yr Unol Daleithiau yn Irac ac y dylid “ystyried yn ddwys” ei erlyn.

Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban Alex Salmond wedi dweud yr hoffai weld ymchwiliad yn cael ei gynnal i Tony Blair gan y Llys Troseddol Rhyngwladol (ICC) ac wynebu camau yn y senedd i’w atal rhag cael swydd gyhoeddus eto.

Yn ôl cyn-lysgennad Prydain i’r Cenhedloedd Unedig, cafodd y DU ei “gwthio” i weithredu’n filwrol yn rhy gynnar gan yr Unol Daleithiau.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond gael ei holi am oblygiadau’r adroddiad a rol Prydain yn rhyngwladol yn y dyfodol, pan fydd yn ymddangos gerbron pwyllgor seneddol heddiw.

Mewn datganiad ddoe, dywedodd Tony Blair nad oedd yn derbyn cyhuddiadau teuluoedd y 179 o filwyr fu farw ei fod wedi bod yn anghywir ac yn fyrbwyll, gan fynnu y byddai’n gwneud yr un penderfyniad eto i fynd i ryfel petai’r un wybodaeth yn cael ei chyflwyno iddo am y bygythiad gan Saddam Hussein.

Roedd sylwadau Blair yn gwrthddweud casgliadau’r adroddiad, sef bod y penderfyniad i fynd i ryfel wedi cael ei wneud cyn bod y llywodraeth ar y pryd wedi ymchwilio i’r holl opsiynau oedd ar gael iddyn nhw.

Er i’r arweinydd Llafur Jeremy Corbyn ymddiheuro ar ran y blaid, nid yw wedi galw ar ei ragflaenydd i fynd o flaen ei well am droseddau rhyfel, fel yr oedd rhai wedi disgwyl.