Mae cyn-Brif Weinidog Prydain, Tony Blair wedi dweud ei fod yn fodlon “cymryd cyfridoldeb llawn” am ei benderfyniad i fynd i ryfel yn Irac, ond ei fod yn glynnu wrth y penderfyniad hwnnw.

Dywedodd ei fod yn “ddiffuant” wrth wneud y penderfyniad, ac y dylai’r adroddiad olygu bod “honiadau o fod yn ffuantus, celwyddog neu’n dwyllodrus” gael eu rhoi o’r neilltu.

Dywedodd ei fod yn teimlo ar y pryd yn 2003 ei fod yn gweithredu “er lles y genedl”, a’i fod yn credu o hyd mai’r peth cywir i’w wneud oedd “gwaredu Saddam Hussein”.

Yn ei adroddiad, dywedodd Chilcot fod y seiliau ar gyfer y rhyfel “ymhell o fod yn foddhaus”, ac nad oedd Saddam Hussein yn cynnig “bygythiad ar unwaith”.

Dywedodd hefyd fod y cudd-wybodaeth am yr arfau oedd gan Irac yn ddiffygiol.

Ond fe dynnodd Blair sylw at y ffaith fod yr adroddiad wedi dweud nad oedd e wedi twyllo’r Cabinet, na chwaith ei fod e wedi camddefnyddio cudd-wybodaeth nac wedi rhoi sicrwydd i Arlywydd yr Unol Daleithiau, George W Bush ymlaen llaw y byddai’n ei gefnogi.

‘Cymryd cyfrifoldeb llawn’

Ond roedd Blair yn barod i gydnabod fod yr adroddiad wedi beirniadu’r paratoadau, y cynllunio, y prosesau a pherthynas Llywodraeth Prydain a’r Unol Daleithiau.

Mae disgwyl i Blair ymateb yn llawn i’r adroddiad yn ddiweddarach, ond fe ddywedodd ei fod yn “cymryd cyfrifoldeb llawn am unrhyw gamgymeriad heb eithriad nac esgus”.

Ond fe ddywedodd nad yw’n credu bod y rhyfel yn Irac wedi arwain at gynnydd yng ngweithgarwch brawychwyr erbyn heddiw, sef un arall o gasgliadau’r adroddiad.

Wrth gloi ei ddatganiad byr, bu Blair yn rhoi teyrnged i’r milwyr fu farw yn y rhyfel ac i’w teuluoedd.

Dywedodd y byddai’n amlinellu’r gwersi y gellir eu dysgu o’r cyfan.