Syr John Chilcot (Llun: PA)
Wedi hir ymaros, bydd yr adroddiad swyddogol i ran Prydain yn rhyfel Irac yn cael ei gyhoeddi heddiw a allai weld y cyn Prif Weinidog, Tony Blair, yn cael ei ddwyn i gyfrif am fynd â’r wlad i ryfel.

13 mlynedd ers i filwyr Prydain heidio i Irac a saith mlynedd ers i’r ymchwiliad ddechrau, bydd Syr John Chilcot yn cyflwyno ei ddyfarniad ar un o ymgyrchoedd milwrol mwyaf dadleuol yn hanes diweddar y DU.

Ni fydd yr adroddiad  yn penderfynu p’un ai oedd y rhyfel yn gyfreithiol dan gyfraith ryngwladol, ond bydd yn cynnig darlun “llawn a chraff” o’r broses a arweiniodd at ei ddechrau yn 2003.

Er hynny, mae disgwyl y bydd galw am weithredu cyfreithiol yn erbyn Tony Blair, gan fod disgwyl iddo gael ei feirniadu’n hallt yn yr ymchwiliad.

O achos y rhyfel yn Irac, fe wnaeth degau o filoedd, neu hyd yn oed hyd at gannoedd o filoedd, o bobol leol farw hefyd.

‘Heb osgoi beirniadu’

Er bod rhai o deuluoedd y 179 o filwyr Prydeinig a gafodd eu lladd yn yr ymladd yn credu y bydd yr adroddiad yn “celu’r gwir”, mae’r awdur wedi mynnu nad yw wedi osgoi beirniadu pan oedd hi’n briodol i wneud.

“Rwyf wedi’i gwneud hi’n glir iawn ers i’r ymchwiliad ddechrau na fyddwn ni yn osgoi beirniadu pe bawn yn dod ar draws penderfyniadau neu ymddygiad oedd yn haeddu beirniadaeth,” meddai mewn cyfweliad gyda newyddiadurwyr neithiwr.

“Ac yn wir, mae ‘na mwy nag ychydig o achlysuron wedi bod pan oedd yn rhaid i ni wneud hynny. Ond, byddwn yn ei wneud ar sail dadansoddi’r dystiolaeth yn fanwl.”

Mae’r erlynydd yn y Llys Troseddol Rhyngwladol, Fatou Bensouda, wedi dweud eisoes nad oes modd codi cyhuddiadau sy’n ymwneud â’r penderfyniad i fynd i ryfel yn y llys.

Mae hyn am nad oes gan y llys awdurdod dros “droseddau ymosodol” gan bennaeth wladwriaeth.

Fodd bynnag, mae’r dyn sydd wedi bod yn cynghori rhai o deuluoedd y milwyr fu farw wedi dweud eu bod yn paratoi i ddechrau achos sifil yn erbyn Tony Blair.

“Mae ganddo gyfrifoldeb personol fel arweinydd y wlad hon i asesu’r wybodaeth y mae’n ei defnyddio i gyfiawnhau mynd i ryfel,” meddai’r Cadfridog, Syr Michael Rose, oedd yn bennaeth ar filwyr Prydeinig yn ystod rhyfel Bosnia yn y 1990au.

Oedi Chilcot

Roedd disgwyl i’r adroddiad, sy’n ymestyn dros 12 o gyfrolau, gael ei gyhoeddi ddwy flynedd ar ôl ei dechrau yn 2009, ac fe gydnabyddodd Syr John Chilcot y teimlad o rwystredigaeth am yr amser y cymrodd i’w gwblhau.

Dywedodd fod y panel ymchwilio wedi wynebu “tasg anferth” o edrych trwy ddegau ar filoedd o ddogfennau swyddogol ynghyd â thystiolaeth ar lafar gan wleidyddion, cadfridogion, diplomyddion ac ysbiwyr.

Fe wnaeth yr ymchwiliad glywed tystiolaeth bod Tony Blair, ac Arlywydd America ar y pryd, George Bush, wedi arwyddo cytundeb “mewn gwaed” i ddymchwel unbennaeth Saddam Hussein yn Irac pan wnaeth y ddau gwrdd yn fferm yr Arlywydd yn Crawford, Texas, cyn y rhyfel.

Mae Tony Blair wedi gwadu hyn.

Bydd yr adroddiad hefyd yn edrych ar yr offer oedd ar gael i filwyr Prydeinig, ymysg honiadau nad oedden nhw wedi cael digon i’w hamddiffyn.

‘Cyfiawnder’

Mae rhieni Peter McFerran, 24, o Gei Conna, a fu farw yn ne Irac yn 2007 tra’n gwasanaethu gyda’r Awyrlu, wedi mynd i Lundain heddiw ar gyfer y cyhoeddiad.

Roedd Bob ac Ann McFerran yn gwisgo crysau-t gyda’r geiriau “Cyfiawnder i Peter” wrth iddyn nhw gyrraedd canolfan Elizabeth II yn Llundain.

Dywedodd Ann McFerran, 64, nad oed hi “gwybod beth i’w ddisgwyl” ond ei bod yn gobeithio am gyfiawnder i’w mab.

Mae teuluoedd rhai o’r milwyr eraill wedi gwrthod mynd i’r cyhoeddiad gyda rhai yn cyhuddo adroddiad Chilcot o fod yn “ffars.”