Brendan Cox, gwr gweddw'r AS Jo Cox, mewn rali yn Sgwar Trafalgar, Llundain Llun: Daniel Leal-Olivas/PA Wire
Mae miloedd o bobl ar draws y byd wedi ymgynnull heddiw i gofio bywyd yr Aelod Seneddol Llafur Jo Cox a fyddai wedi dathlu ei phen-blwydd yn 42 oed heddiw.

Roedd ei gwr, Brendan Cox, a’u dau blentyn ifanc wedi ymuno a chyfeillion, cydweithwyr ac ymgyrchwyr blaenllaw yn Llundain tra bod eraill wedi ymgynnull yn ei hetholaeth yn Batley, Swydd Efrog, ac mewn digwyddiadau rhyngwladol.

Yn gynharach heddiw, roedd  Brendan Cox a’i blant wedi teithio ar hyd Afon Tafwys cyn cyrraedd rali yn Sgwâr Trafalgar, a oedd yn un o nifer o ddigwyddiadau  #MoreInCommon a oedd yn cael eu cynnal ar draws y wlad, a’r byd.

Mae #MoreInCommon yn cyfeirio at ei haraith gyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin, ar ôl cael ei hethol am y tro cyntaf y llynedd, pan ddywedodd: “Mae gennym lawer fwy sy’n gyffredin na’r hyn sy’n ein gwahanu.”

Wrth annerch y dorf fe ddiolchodd Brendan Cox i bawb am y cariad sydd wedi cael ei ddangos i’w deulu “ers i’n byd chwalu ddydd Iau diwethaf.”

Bu farw’r AS ar ôl cael ei saethu a’i thrywanu yn y stryd yn Birstall, ger Leeds.

Mae Thomas Mair, 52, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Jo Cox.