Y Canghellor, George Osborne Llun: PA
Mae un o Aelodau Seneddol meinciau cefn y Ceidwadwyr wedi galw ar y Canghellor George Osborne i ymddiswyddo.
Daw’r alwad ar ôl i 57 o aelodau seneddol Ceidwadol – gan gynnwys dau o Gymru – arwyddo llythyr yn gwrthwynebu’r cynllun i gyflwyno Cyllideb frys pe bai Prydain yn penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i wrthwynebu’r Gyllideb frys.
Dywedodd Nadine Dorries: “Dylai’r Canghellor ymddiswyddo nawr os yw’n credu y byddai’r Gyllideb yn beth da i’r DU o dan unrhyw amgylchiadau.”
Yn ôl Osborne, gallai pleidlais tros adael yr Undeb Ewropeaidd olygu bod rhaid gwneud toriadau gwerth £30 biliwn.
Dywedodd Osborne wrth raglen Today ar BBC Radio 4 na fyddai ganddo ddewis ond cyflwyno’r Gyllideb.
Yn ôl Osborne, byddai:
– Cyfradd sylfaenol y dreth incwm yn codi 10% (22c yn y £1);
– Cyfradd ucha’r dreth incwm yn codi 3c i 43c;
– a’r dreth etifeddiaeth yn codi 5c i 45c yn y £1
– y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu toriadau gwerth £2.5 biliwn
– y Gyllideb Amddiffyn yn wynebu toriadau gwerth £1.2 biliwn
– y byd addysg yn wynebu toriadau gwerth £1.15 biliwn
‘Cefnu ar addewidion’
Ond mewn datganiad gan y 57 AS, sy’n cynnwys dau aelod seneddol o Gymru, David Jones a Chris Davies, dywedodd y grŵp ei bod hi’n “anhygoel” fod y Canghellor yn “bygwth cefnu ar gynifer o addewidion maniffesto”.
Ychwanega’r llythyr: “Mae’n absẃrd dweud pe bai pobol yn pleidleisio tros gymryd rheolaeth unwaith eto oddi ar yr Undeb Ewropeaidd y byddai’n dymuno eu cosbi nhw yn y modd yma.”
Dydy’r grŵp ddim yn credu y gall Osborne sicrhau digon o gefnogaeth er mwyn cyflwyno toriadau i’r Gwasanaeth Iechyd, yr heddlu nac ysgolion.
Maen nhw’n dweud y byddai’r fath doriadau’n “ddiangen, ac yn anghywir”, ac na fyddai modd iddo barhau yn ei swydd.
Dywedodd cadeirydd Labour Leave, John Mills fod sylwadau Osborne yn dangos bod yr ymgyrch tros aros yn Ewrop yn “colli’r ddadl”.
Ceidwadwyr yn mynnu y byddan nhw’n gwrthwynebu Cyllideb frys yn sgil Brexit