Syr Philip Green
Mae cyn-berchennog siopau BHS, Syr Philip Green, wedi cadarnhau y bydd yn ymddangos gerbron Aelodau Seneddol ddydd Mercher sy’n ymchwilio i fethiant cwmni.

Roedd y biliwnydd, sy’n berchen Topshop, wedi bygwth peidio ymddangos gerbron y pwyllgor oni bai bod yr AS Frank Field, yn ymddiswyddo fel arweinydd yr ymchwiliad seneddol.

Ond mewn datganiad heddiw dywedodd Syr Philip Green ei fod yn “siomedig” nad oedd wedi derbyn ymateb i’w lythyron gan Frank Field ac nad oedd yn credu y dylai’r “rhai sy’n cynnal proses Seneddol fynegi barn mewn modd mor gyhoeddus cyn fy mod wedi cael y cyfle i ymddangos gerbron y pwyllgor.”

Gobeithio am ‘wrandawiad teg’

Wedi ystyried y mater, meddai, mae wedi penderfynu ymddangos gerbron y pwyllgor yfory, gan “obeithio y bydd y pwyllgor yn rhoi gwrandawiad teg i  mi.”

“Dyma fydd y cyfle cyntaf, a’r unig gyfle, rwyf wedi ei gael i roi fy ochr i o’r stori drist iawn am BHS ac fe fyddaf yn gwneud fy ngorau i ateb yr holl gwestiynau sydd yn cael eu gofyn i mi mewn modd onest a thryloyw.”

Roedd Syr Philip Green wedi’i gythruddo gan sylwadau a wnaeth Frank Field y byddai’r pwyllgor Busnes a Phensiynau yn “chwerthin” arno petai’n cynnig llai na £600 miliwn yn sgil y diffyg yng nghronfa bensiwn BHS.

Roedd Philip Green wedi gwerthu BHS i Dominic Chappell am £1 am 2015.

Aeth y cwmni i’r wal ar ddechrau’r mis ar ôl i’r gweinyddwyr fethu a dod o hyd i brynwr ac fe gafodd 11,000 o swyddi eu colli.

Bydd y Pwyllgor yn holi’r biliwnydd am daliad difidend o £400 miliwn yr oedd wedi ei wneud i’w deulu a thros yr hyn a wnaeth wrth reoli’r cynllun pensiwn.