Syr John Major
Gall gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) “rwygo’r DU”, fe rybuddiodd y cyn-Brif Weinidog Syr John Major heddiw.

Meddai y gallai undod y Deyrnas Unedig gael ei beryglu os fydd pobl yn pleidleisio o blaid gadael yn y refferendwm ar 23 Mehefin.

Roedd John Major yn siarad yng Ngogledd Iwerddon wrth ymddangos ar lwyfan gyda’r cyn-Brif Weinidog Llafur Tony Blair.

Ail refferendwm annibyniaeth?

Ar hyn o bryd, mae’r arolygon barn yn awgrymu ei bod hi’n agos iawn rhwng yr ymgyrchoedd aros a gadael.

Ond yn yr Alban, mae’r polau piniwn yn dangos fod y rhan fwyaf yn awyddus i aros yn rhan o Ewrop, gyda Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn awgrymu y gall fod ail refferendwm annibyniaeth os yw’r wlad yn cael ei “llusgo” allan o’r Undeb Ewropeaidd yn erbyn ei ewyllys os yw’r DU ar y cyfan yn pleidleisio o blaid gadael.

Rhybuddiodd y Canghellor George Osborne, a oedd yn yr Alban heddiw hefyd, y gallai gadael achosi “sioc economaidd” a fyddai’n dileu £4.5 biliwn oddi ar economi’r Alban a chynyddu niferoedd diweithdra fwy na 40,000 dros y ddwy flynedd nesaf.