Neil Hamilton Llun: Senedd.tv
Mae arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad wedi dod o dan y lach am dorri addewid maniffesto ei blaid ar ffordd liniaru’r M4 yn ne Cymru.

Ddoe, dywedodd Neil Hamilton wrth ACau yn siambr y Senedd y byddai UKIP yn rhoi ei chefnogaeth i gynigion Llafur i gael ffordd liniaru gwerth £1.1 biliwn i’r M4 ger Casnewydd.

Mae dau gynllun ar y bwrdd ar gyfer hwyluso’r problemau traffig ar yr M4 ger Casnewydd. Y llwybr “du” sy’n cael ei ffafrio gan weinidogion Llafur ond sy’n cael ei wrthwynebu gan Blaid Cymru a Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn ogystal â rhai ACau Llafur a grwpiau amgylcheddol.

Mae’r ail gynllun, ar gyfer y llwybr “glas”, yn rhatach a dyna’r un oedd yn cael cefnogaeth UKIP yn eu maniffesto etholiadol.

Ond dywedodd Neil Hamilton ddydd Mercher y byddai’r llwybr “du” yn well nag unrhyw lwybr o gwbl.

Beirniadaeth

 

Heddiw, mae ffrae wedi codi rhwng Neil Hamilton ac arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, am ei sylwadau.

Mae Nathan Gill wedi honni nad yw’r hyn ddywedodd Neil Hamilton yn adlewyrchu barn grŵp Ukip yn y Cynulliad tra bod Neil Hamilton yn dweud fod Nathan Gill yn hwyr ar gyfer y cyfarfod lle cytunwyd ar y farn newydd.

Ac mae Aelod Cynulliad Ceidwadol Gogledd Cymru Mark Isherwood hefyd wedi beirniadu Neil Hamilton am dorri addewid ei blaid.

‘Torri addewidion’

Dywedodd Mark Isherwood AC ei bod hi’n “gywilyddus bod UKIP yn torri addewidion mor gynnar yn nhymor newydd y Cynulliad.”

Ac er ei fod yn cytuno bod angen ffordd liniaru’r M4, ychwanegodd na ddylai hynny fod ar draul buddsoddiad i’r A55 yng ngogledd Cymru hefyd.

Meddai: “Dy’n ni ddim ond ychydig wythnosau i mewn i’r pumed Cynulliad ac mae UKIP eisoes yn torri addewidion.”

‘Cywilyddus’

Ychwanegodd: “Roedd maniffesto UKIP yn glir eu bod yn cefnogi’r llwybr ‘glas’ rhatach ac roedd ymgeiswyr UKIP yn addo gwrthwynebu’r llwybr ‘du’.  Mae’n gywilyddus ac ni allaf ond gobeithio nad dyma’r cyntaf o nifer o addewidion y bydd yn cael eu torri.

“Rwy’n cytuno bod angen buddsoddi mewn ffordd liniaru’r M4, ond mae yna opsiwn rhatach ac ni ddylai buddsoddiad yn y prosiect hwn fod ar draul buddsoddiad sydd mawr ei angen ar yr A55, sydd wedi dioddef o danfuddsoddi a thagfeydd am lawer yn rhy hir.”