Mike Ashley tu allan i bencadlys Sports Direct yn Swydd Derby Llun: Joe Giddens/PA Wire
Mae perchennog cwmni Sports Direct wedi cyfaddef heddiw fod rhai o weithwyr y cwmni wedi derbyn cyflog is na’r isafswm cyflog cenedlaethol.

Daeth cyfaddefiad Mike Ashley wrth iddo gael ei holi gan Aelodau Seneddol sy’n rhan o Bwyllgor Dethol Busnes San Steffan – a hynny yn sgil pryderon am amodau gwaith y cwmni.

Roedd y pryderon yn ymwneud â warws y cwmni yn Swydd Derby, y defnydd o gytundebau dim oriau, iechyd a diogelwch yn y gweithle a chyflogau is na’r isafswm cyflog.

Fe gytunodd Mike Ashley y dylai adolygiad annibynnol gael ei gynnal i amodau gwaith y cwmni.

‘Hollol annerbyniol’

Mae 20% o weithwyr y cwmni’n cael eu cyflogi ar gytundebau llawn amser, ac 80% ar gytundebau rhan amser.

Dywedodd Mike Ashley nad dyna’r cydbwysedd gorau ac y dylai rhai o’r staff ar gytundebau dim oriau gael cytundebau llawn amser.

Ychwanegodd ei bod hefyd yn “annheg bod cyflog y gweithwyr yn cael ei gwtogi os ydyn nhw funud yn hwyr.”

Fe ymatebodd i honiadau bod 110 o ambiwlansys wedi’u galw i warws y cwmni yn Swydd Derby yn y tair blynedd diwethaf, a honiadau bod gweithwyr benywaidd wedi dioddef aflonyddu rhywiol – a dywedodd fod hynny’n “hollol annerbyniol.”

Dywedodd fod y cwmni wedi tyfu’n rhy fawr iddo ef ei reoli ei hun, ac fe addawodd adolygu strwythur rheoli corfforaethol y cwmni.

‘Diwylliant o ofn’

Yn ôl yr undeb llafur Unite, mae “diwylliant o ofn” yn bodoli yn y warws yn Swydd Derby, ac mae honiadau bod un gweithiwr wedi’i gorfodi i roi genedigaeth mewn tŷ bach.

Addawodd y perchennog y byddai’n mynd i’r afael ag argymhellion yr adolygiad ac yn eu gwireddu o fewn 90 diwrnod.

Roedd Mike Ashley hefyd wedi ystyried prynu’r cwmni BHS cyn ei gwymp yr wythnos diwethaf.