Y difrod wedi i'r bom ffrwydro yn Istanbwl bore ma Llun: PA
Yn ôl adroddiadau, mae’r heddlu yn Nhwrci wedi arestio pedwar o bobl mewn cysylltiad â ffrwydrad bom yn Istanbwl, a laddodd 11 o bobol.

Roedd yr ymosodiad yn ystod un o gyfnodau prysuraf y bore yn y ddinas wedi targedu cerbyd yr heddlu, gan ladd saith heddwas a phedwar o bobl eraill.

Mae’r pedwar person sy’n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â’r ymosodiad yn cael eu holi gan yr heddlu ar hyn o bryd, gydag un asiantaeth yn dweud eu bod wedi llogi’r car a gafodd ei ddefnyddio yn ystod yr ymosodiad.

Cafodd 36 o bobol eu hanafu ac mae’n debyg bod tri ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Cafodd adeiladau gerllaw a rhai cerbydau eu difrodi hefyd, gan gynnwys ffenestri’r mosg Otomanaidd, Sehzadebasi, o’r 16eg ganrif.

 

Ymosodiadau eraill

Dyma oedd y pedwerydd ymosodiad bom mawr yn Istanbwl eleni, gyda dau yn targedu twristiaid a dau wedi’u hanelu at yr heddlu.

Mae Plaid Gweithwyr Cwrdistan, neu’r PKK, wedi bod yn targedu’r heddlu a’r lluoedd arfog ers mis Gorffennaf ar ôl i’r broses heddwch bregus fethu.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) hefyd yn cael eu hamau o gynnal nifer o ymosodiadau yn Nhwrci.

Yn ôl byddin y wlad, mae tua 500 o swyddogion diogelwch Twrci wedi cael eu lladd mewn ymosodiadau gan wrthryfelwyr Cwrdaidd ac mae 4,900 o’r PKK wedi’u lladd yn Nhwrci neu ogledd Irac.