Mae ymchwil newydd yn awgrymu y dylai merched sydd â’r math mwyaf cyffredin o ganser y fron gymryd cyffuriau am ddegawd i atal y clefyd rhag dod nôl.

Gallai tua 40,000 o ferched yn y DU sydd â chanser y fron yn ymwneud â’r hormonau, sy’n sensitif i estrogen, leihau’r perygl o’u canser yn dod yn ôl os byddan nhw yn parhau i gymryd y cyffuriau am 10 mlynedd.

Mae’r rhan fwyaf o gleifion canser y fron yn cymryd y cyffuriau hyn am bum mlynedd ar hyn o bryd.

Fe wnaeth yr ymchwil ganfod bod merched sy’n cymryd yr atalyddion hyn am ddeg mlynedd yn hytrach na phump, draean yn llai tebygol o weld eu canser yn dod yn ôl neu ddatblygu canser yn y fron arall.

Cafodd y gwaith ei gyflwyno yng nghynhadledd y Gymdeithas Americanaidd dros Oncoleg Glinigol yn Chicago.