Mae dyn wedi’i arestio wedi i bedwar o blant gael eu canfod mewn “cyflwr difrifol” yn eu cartre’ yn Iwerddon.

Mae natur eu hanafiadau yn awgrymu iddyn nhw gael eu tagu, cyn iddyn nhw gael eu cludo i Ysbyty Tallaght yn ninas Dulyn. Fe gafodd dau o’r plant eu cludo yno mewn hofrennydd.

Mewn datganiad, mae heddlu’r Garda yn dweud i’r ymosodiadau ddigwydd toc wedi 7.30yh nos Wener yn Blainroe yn sir Wicklow. Mae dyn yn ei 30au wedi’i arestio, ac mae’n parhau yn y ddalfa.