Llun: PA
Mae llai o swyddi ar gael i raddedigion ac mae’r cyflogau’n is, yn ôl adroddiad newydd.

Mae gwefan swyddi ar gyfer graddedigion, Adzuna, yn dweud bod gostyngiad o 8% wedi bod yn nifer y swyddi i raddedigion ym mis Ebrill o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn yn ôl, sy’n ostyngiad o 12,850.

Roedd cyflogau ar gyfer graddedigion ar ei lefel isaf ers 30 mis, sef £23,309, yn ôl yr astudiaeth.

Caergrawnt a Rhydychen yw’r dinasoedd gorau ar gyfer swyddi i raddedigion a’r llefydd gwaethaf yw Sunderland, Hull, Middlesbrough a Belffast.

Dywedodd Doug Monro, cyd-sylfaenydd Adzuna bod graddedigion ar draws y DU yn wynebu “cyfnod anodd” ar hyn o bryd gyda chyflogau is a ffioedd dysgu yn cynyddu.