Alex Salmond (Llun Plaid Cymru)
Fe fyddai pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at refferendwm annibyniaeth arall yn Yr Alban, yn ôl cyn Brif Weinidog y wlad.
Mewn dadl deledu ar yr Undeb neithiwr, fe ddywedodd Alex Salmond o’r SNP y byddai hynny’n cyfiawnhau pleidlais arall.
“Os bydd yr Alban yn pleidleisio i aros a gweddill y Deyrnas Unedig, neu Loegr, yn pleidleisio i adael, mae hynny’n cyfiawnhau refferendwm arall,” meddai.
Ewrop – yr addewid
Alex Salmond oedd y dyn a arweiniodd yr ymgyrch o blaid annibyniaeth yn ystod y refferendwm yn hydref 2014.
Ar y pryd, meddai, un o arfau mawr y gwrthwynebwyr oedd y byddai aros yn y Deyrnas Unedig hefyd yn gwarchod lle’r Alban yn yr Undeb Ewropeaidd.
Y ddadl oedd na allai Alban annibynnol fod yn sicr o gael ei derbyn yn aelod o’r Undeb ac y byddai yna broses hir o drafod cyn caniatáu hynny.
Amodau’n newid
Er fod Alex Salmond wedi dweud ar y pryd y byddai’r refferendwm annibyniaeth yn setlo’r pwnc am genhedlaeth mae ef a’i olynydd, Nicola Sturgeon, wedi dweud y byddai refferendwm arall yn bosib pe bai amodau’n newid.
Maen nhw hefyd wedi dweud mai pobol yr Alban fydd yn dweud a fydd pleidlais arall neu beidio ond maen nhw’n credu y byddai mwyafrif o blaid pe bai’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.