Myfyrwyr yn graddio - ond a fyddan nhw'n pleidleisio (Clawed CCA3.0)
Fe allai hyd at 200,000 o fyfyrwyr ym Mhrydain fethu â phleidleisio yn y refferendwm ar Ewrop oherwydd nad ydyn nhw’n gwybod pryd mae’n cael ei gynnal, neu am eu bod wedi cofrestru yn y lle anghywir.

Dyna yw canfyddiad arolwg sydd wedi cael ei gyhoeddi gan benaethiaid prifysgolion wrth iddyn nhw annog mwy o’u myfyrwyr i gofrestru ar gyfer y bleidlais.

Mae pobol ifanc yn tueddu i fod yn llawer mwy cefnogol i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl yr arolygon barn.

Ond pryder yr ymgyrch i aros yw eu bod nhw hefyd yn llai tebygol o bleidleisio, yn enwedig gan fod y refferendwm yn digwydd ar 23 Mehefin ac felly y tu allan i’r tymor prifysgol arferol.

Mwyafrif methu enwi dyddiad

Yn ôl yr arolwg a gomisiynwyd gan Universities UK roedd 20% o fyfyrwyr wedi cofrestru i bleidleisio yn ardal eu colegau – a hynny er bod bron i hanner yn disgwyl bod yn ôl gartre’ erbyn 23 Mehefin.

Doedd 63% ddim yn gallu enwi dyddiad y refferendwm a doedd 54% ddim hyd yn oed yn ymwybodol mai ym mis Mehefin y bydd cael ei gynnal.

Er hynny, dywedodd dros hanner y myfyrwyr yn yr arolwg eu bod wedi meddwl ‘rhywfaint’ neu ‘lawer’ am y bleidlais, ac roedd 48% yn dweud y bydden nhw’n bendant yn pleidleisio.

“Os nad yw myfyrwyr am i eraill wneud y penderfyniad drostyn nhw, mae’n hanfodol bod cymaint ohonyn nhw â phosib yn pleidleisio,” meddai Richard Brooks, dirprwy  Lywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.