Mae dynes a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo hunanladdiad dyn 51 oed wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd Heddlu Swydd Essex eu galw i draeth yn St Osyth fore Gwener yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi mynd i drafferthion.

Cafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty, a bu farw’r dyn yn ddiweddarach.

Cafodd y ddynes 40 ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo hunanladdiad, a’i rhyddhau ar fechnïaeth tan Fehefin 26.