bo
Ymgyrchwyr tros aros yn Ewrop wedi beirniadu Boris Johnson
Mae cyn-Faer Llundain Boris Johnson mewn dŵr poeth ar ôl cymharu dulliau’r Undeb Ewropeaidd o adeiladu gwladwriaeth gyda dulliau Hitler o dra-arglwyddiaethu yn Ewrop.
Er iddo ddweud bod y ddau wedi defnyddio “dulliau gwahanol” i’w gilydd, mae sylwadau Johnson wedi cael eu beirniadu gan ymgyrchwyr o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Johnson fod nifer o ymdrechion aflwyddiannus yn ystod y 2,000 o flynyddoedd diwethaf i uno’r cyfandir o dan lywodraeth ganolog mewn ymgais i ail-greu “oes aur” y Rhufeiniaid.
Yn y Sunday Telegraph, dywedodd Boris Johnson: “Gwnaeth Napoleon, Hitler, amryw bobol geisio gwneud hyn, ac mae’n gorffen yn drasig. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn ymgais i wneud hyn drwy ddulliau gwahanol.”
Ychwanegodd nad oes “ufudd-dod i’r syniad o Ewrop” a bod hynny’n creu “bwlch”.
Yn dilyn ei sylwadau, gwnaeth Yvette Cooper ei gyhuddo o chwarae “gêm gas iawn”, gan ddweud fod ei “ddadleuon yn wag”.
Ychwanegodd fod Johnson yn “ddespret i greu penawdau ar gyfer ymgyrch ddespret”.
Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage wedi datgan ei gefnogaeth i Johnson pe bai David Cameron yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog yn dilyn refferendwm Ewrop ar Fehefin 23.
Mae Farage wedi ei gymharu â chyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Ronald Reagan.