Fe fydd y BBC yn cael ei rheoleiddio gan sefydliad allanol am y tro cyntaf yn ei hanes, mae disgwyl i’r Llywodraeth gyhoeddi heddiw.

Mae’r newid yn un o nifer o gynlluniau sydd wedi cael eu cynnwys yn y Papur Gwyn hir-ddisgwyliedig ar ddyfodol y BBC, sydd hefyd yn cynnwys cynnydd yn ffi’r drwydded a chynllun i godi tal am wylio rhaglenni ar iPlayer.

Fe fydd rheoleiddiwr annibynnol y cyfryngau Ofcom yn dod yn reoleiddiwr swyddogol y gorfforaeth gan ddisodli Ymddiriedolaeth y BBC.

Y BBC fydd yn gyfrifol am benodi o leiaf “hanner aelodau’r bwrdd” ac Ofcom fydd rheoleiddiwr allanol y gorfforaeth.

Mae’r newid yn un i nifer o awgrymiadau a wnaed gan Syr David Clementi y llynedd wrth iddo gyhoeddi canlyniadau adolygiad annibynnol i’r ffordd mae’r BBC y cael ei llywodraethu.

Fe fydd siartr y BBC hefyd yn cael eu hadnewyddu bod 11 mlynedd yn hytrach na bob 10 mlynedd fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale amlinellu’r cynigion yn llawn yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw.

“Mae ein cynlluniau yn golygu y bydd y BBC yn parhau i wneud rhaglenni gwych ac yn parhau i ffynnu yn y dyfodol,” meddai ffynhonnell yn y Llywodraeth.

S4C

Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, eisoes wedi mynegi pryderon am y cynlluniau gan ddweud bod angen trafodaeth i wneud yn siŵr bod y sianel yn aros yn annibynnol o ran cynnwys ac arian.

Pe bai’r penderfyniadau anghywir yn cael eu gwneud, meddai Ian Jones, fe allai bwrdd rheoli’r BBC fod yn penderfynu ar lefelau gwario S4C er y byddai gwasanaethau’r Gorfforaeth yn elwa o unrhyw doriadau iddyn nhw.