Ar drothwy achos yn yr Uchel Lys, mae gweithwyr yn y diwydiant adeiladu a gafodd eu pardduo am weithredu’n ddiwydiannol wedi cael cadarnhad y byddan nhw’n derbyn iawndal.
Ar drothwy’r achos yn Llundain, daeth cadarnhad gan undebau Ucatt, Uno’r Undeb a’r GMB eu bod nhw wedi dod i gytundeb gyda nifer o gwmnïau adeiladu.
Bellach, mae disgwyl i hyd at 771 o weithwyr dderbyn eu siâr o £75 miliwn.
Yn y llys, cynigiodd cyfreithiwr ar ran y cwmnïau ymddiheuriad i’r gweithwyr.
Ond daeth bloedd o “Dim cyfiawnder, dim heddwch” yn ôl.
Dywedodd llefarydd ar ran y gweithwyr yn y llys: “Dydyn ni ddim yn ystyried hwn yn ymddiheuriad diffuant o dan unrhyw amgylchiadau.”
Ddechrau’r wythnos, daeth cadarnhad gan undeb Uno’r Undeb eu bod nhw wedi dod i gytundeb er mwyn i 256 o weithwyr dderbyn eu siâr o £10 miliwn.
Gallai’r arian y mae unigolion yn ei dderbyn amrywio o £25,000 i £200,000 yr un.