Mae HSBC wedi cyhoeddi gostyngiad o 18% yn ei elw cyn treth yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn.
Dywed y banc ei fod wedi cael ei effeithio gan “ansefydlogrwydd sylweddol” yn y marchnadoedd ariannol yn ystod mis Ionawr a Chwefror.
Fe gyhoedd y banc ostyngiad o 18% mewn elw i £3.7 biliwn yn y chwarter cyntaf.
Ond dywedodd y banc ei fod wedi perfformio’n “gadarn” mewn amodau heriol gydag adran fuddsoddi’r banc yn dioddef yn dilyn cwymp yn y marchnadoedd ariannol ar ddechrau 2016.
Fe gododd cyfrannau’r banc yn Hong Kong gan nad oedd y gostyngiad yn ei elw mor sylweddol â’r disgwyl.