Ty'r Cyffredin Llun: PA
Mae Aelod Seneddol Llafur tros Orllewin Bradford, Naz Shah wedi ymddiheuro am bostio negeseuon gwrth-Semitig ar wefannau cymdeithasol.

Mae pwysau ar arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn i’w diarddel o’i swydd yn sgil y sylwadau a gafodd eu gwneud cyn iddi gael ei hethol yn 2015.

Wrth gynnig eglurhad i Dŷ’r Cyffredin, dywedodd Shah ei bod hi’n difaru’r sylwadau a’i bod hi’n cydweithio â grwpiau Iddewig.

Roedd Prif Weinidog Prydain, David Cameron eisoes wedi dweud ei bod yn “rhyfeddol” nad oedd hi wedi cael ei chosbi gan y blaid.

Cerydd

Cafodd Shah gerydd gan Corbyn ddiwrnod wedi’r ymddiheuriad a phenderfynodd hi ymddiswyddo fel cynorthwyydd i John McDonnell yn sgil ei hymddygiad.

Yn 2014, roedd Shah wedi postio llun dychanol ar Facebook oedd yn awgrymu y dylid symud Israel i’r Unol Daleithiau fel ateb i’r anghydfod rhwng Israel a Phalestina.

Tynnodd gwefan Guido Fawkes sylw hefyd at bostiad blaenorol ganddi oedd yn defnyddio’r hashnod #IsraelApartheid uwchben sylw oedd yn dweud bod ymddygiad Hitler yn yr Almaen yn gyfreithlon.

Wrth ymateb i’r ffrae ddiweddaraf, dywedodd Cameron fod “gwrth-Semitiaeth yn hiliaeth”.

Yn dilyn ei hymddiheuriad, diolchodd llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow iddi.