Llun: Stefan Rousseau/PA
Mae cwmni BHS wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr, ar ôl methu a dod o hyd i brynwr ar gyfer y busnes.
Fe allai hyd at 164 o siopau’r cwmni gau gan olygu bod 11,000 o swyddi yn y fantol.
Dyma’r methiant mwyaf i gwmni ar y stryd fawr ers i Woolworths fynd i’r wal yn 2008.
Mewn datganiad dywedodd y gweinyddwyr Duff & Phelps: “Mae’r grŵp (BHS) wedi bod trwy broses o ailstrwythuro ac, fel sydd wedi cael ei adrodd yn helaeth, mae’r cyfranddalwyr wedi bod mewn trafodaethau i ddod o hyd i brynwr ar gyfer y busnes. Mae’r trafodaethau yma wedi bod yn aflwyddiannus.”
Ychwanegodd nad oedd dewis gan y cyfarwyddwyr ond rhoi’r busnes yn nwylo’r gweinyddwyr “er mwyn diogelu’r holl gredydwyr. Fe fydd y grwp yn parhau i fasnachu yn ôl yr arfer tra bod gweinyddwyr yn ceisio ei werthu.”
‘Neb ar fai’
Dywedodd perchennog y cwmni Dominic Chappell, y bydd yn parhau i weithio gyda’r gweinyddwyr “er mwyn dod o hyd i ateb” gan ychwanegu “nad oedd unrhyw un ar fai” am fethiant y cwmni.
“Yn y diwedd roedden ni wedi methu dod i gytundeb gyda Arcadia ynglŷn â phensiynau,” meddai Dominic Chappell.
Cafodd BHS ei brynu oddi wrth y dyn busnes Syr Philip Green am £1 y llynedd gan gonsortiwm o’r enw Retail Acquisitions, a oedd yn cael ei arwain gan Dominic Chappell.
Syr Philip Green yw perchennog y grwp Arcadia.
Mae gan BHS ddyledion o fwy na £1.3 biliwn a diffyg yn ei gronfa bensiwn o £571 miliwn, sydd wedi bod yn faen tramgwydd yn y trafodaethau i geisio achub y busnes dros y penwythnos.
Mae’n debyg bod cwmni Sports Direct wedi bod yn awyddus i brynu rhai o siopau BHS ond nad oedd yn fodlon gwneud hynny petai’n gorfod cymryd cyfrifoldeb am ddiffyg pensiwn y grwp.
Yn ôl adroddiadau mae Syr Philip Green wedi cynnig £80 miliwn tuag at gostau pensiynau BHS ond fe all y rheoleiddiwr ofyn am gyfraniad pellach gan y biliwnydd.
Roedd Syr Philip Green wedi prynu BHS am £200 miliwn yn 2000.