Jeremy Corbyn
Mae Jeremy Corbyn wedi dweud nad oes diffyg brwdfrydedd yn ymgyrch ei blaid i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, yn dilyn beirniadaeth bod ei hymateb wedi bod yn “ddifater.”

Roedd arweinydd y blaid Lafur yn siarad yn ei araith gyhoeddus gyntaf ar y pwnc, gan ddweud bod y mwyafrif o’i blaid yn credu mai aros yn Ewrop yw’r ateb o safbwynt ‘sosialaidd’.

Er iddo bleidleisio i adael Ewrop yn y refferendwm diwethaf yn 1975, a’i fod wedi mynegi barn amheus o’r sefydliad dros y degawdau, dywedodd ei fod wedi’i ddarbwyllo bod aros yn Ewrop yn well i weithwyr a’r amgylchedd.

‘Diffygion’ yr UE

Ond pwysleisiodd hefyd bod rhai diffygion yn perthyn i’r undeb, fel y cytundeb masnach arfaethedig gyda’r Unol Daleithiau, sy’n “fater o bryder enfawr” dros y posibilrwydd o breifateiddio gwasanaethau cyhoeddus.

Fodd bynnag, dywedodd mai fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd oedd mynd i’r afael â’r problemau hyn, yn hytrach nag o’r tu allan.

Roedd o’r farn nad oes “gormod” o bobol o gyfandir Ewrop yn dod i fyw a gweithio ym Mhrydain a dywedodd mai cyflogau uwch, nid cyfyngiadau ar y ‘rhyddid i symud’ oedd ei angen wrth ddelio â materion mewnfudo.