Ymbarel Vote Leave (o wefan yr ymgyrch)
Mae’r penderfyniad i roi’r ymgyrch swyddogol i adael yr Undeb Ewropeaidd yn nwylo’r grŵp Vote Leave yn wynebu her yn y llysoedd.

Mae’r dyn sy’n cyllido un o’r grwpiau eraill yn dweud ei fod yn ystyried gwneud cais ffurfiol am adolygiad barnwrol i benderfyniad y Comisiwn Etholiadau i ddewis Vote Leave i gynrychioli’r bleidlais i adael.

Yn ôl Arron Banks, y dyn cyfoethog y tu cefn i Leave.EU ac ymgyrch GO – mae’n rhaid cael achos llys rhag bod “pleidlais bwysica’ ein bywydau ni” yn cael ei phenderfynu trwy dwyll.

Fe ddywedodd ei fod yn trafod gyda chyfreithwyr ac y bydd cyhoeddiad terfynol amser cinio fory,

Roedd yn cydnabod y gallai hynny olygu bod rhaid gohirio cynnal y refferendwm tan fis Hydref yn hytrach na 23 Mehefin.

‘Cwbl anfodlon’

“Dw i’n gwbl anfodlon gyda phenderfyniad y Comisiwn Etholiadol am amrywiaeth o resymau,” meddai Arron Banks mewn datganiad.

Mae Vote Leave yn cynnwys enwau amlwg yn y Blaid Geidwadol – Boris Johnson a Michael Gove –ac fe ddywedodd y Comisiwn eu bod yn disgwyl i’r grŵp weithio gyda charfannau eraill.