David Cameron dan y lach yn sgil ei fuddsoddiadau ariannol
Mae honiadau o’r newydd wedi cael eu gwneud am ddulliau Prif Weinidog Prydain, David Cameron o dalu trethi.

Daeth i’r amlwg fod ei fam, Mary wedi rhoi rhodd iddo gwerth £200,000 yn dilyn marwolaeth ei dad a allai olygu y byddai’n osgoi talu’r dreth etifeddiaeth.

Roedd hynny, meddai Stryd Downing, ar ben y £300,000 a gafodd ei etifeddu gan Cameron yn dilyn marwolaeth ei dad, Ian.

Ni fydd angen i Cameron dalu treth o 40% ar y rhodd oni bai bod ei fam yn marw o fewn saith mlynedd.

Mae’r manylion a gafodd eu cyhoeddi gan Cameron ei hun – y tro cyntaf i Brif Weinidog Prydain gyhoeddi’r fath wybodaeth – yn dangos ei fod e wedi talu dros £400,000 mewn trethi ar incwm o dros £1 miliwn yn y cyfnod rhwng 2009 a 2015.

Mae’r wybodaeth hefyd yn dangos bod Cameron wedi ennill cyflog o £200,000 yn 2014-15, a’i fod wedi talu £76,000 mewn trethi.

Fe dderbyniodd incwm o £46,899 o gartref y teulu yn Llundain, a £9,834 mewn treuliau gan y Ceidwadwyr.

Pan ddaeth yn Brif Weinidog yn 2010, fe dderbyniodd lwfans o £20,000 heb orfod talu treth fel rhan o’i gyflog o £142,500.

Penderfynodd Cameron gyhoeddi’r ffigurau yn dilyn ffrae Panama, oedd yn dangos bod Cameron a’i wraig wedi gwneud elw o £19,000 o ymddiriedolaeth a gafodd ei sefydlu dramor gan Ian Cameron.

Mae’r Blaid Lafur wedi galw ar David Cameron i egluro’r sefyllfa.

Ond dywedodd Cameron ei fod e wedi cyhoeddi’r wybodaeth er mwyn bod yn dryloyw.