Y Prif Weinidog David Cameron (Llun: PA)
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi cyfaddef iddo wneud llanast ohoni wrth ymdrin â chwestiynau am faterion ariannol eu deulu yr wythnos yma.

Wrth annerch aelodau ei blaid, cadarnhaodd y bydd yn cyhoeddi ei ffurflenni treth, a derbyniodd y bai am y ffrae sydd wedi codi ynghylch cronfeydd tramor ei ddiweddar dad.

“Dyw hi ddim wedi bod yn wythnos wych,” meddai. “Dw i’n gwybod y dylwn fod wedi ymdrin â hyn yn well ac y gallwn fod wedi ymdrin â hyn yn well.

“Dw i’n gwybod fod yna wersi i’w dysgu, ac fe fyddaf yn eu dysgu.”

Canmol ei dad

Dywedodd ei fod yn flin ynghylch y pethau a oedd yn cael eu dweud am ei dad, Ian Cameron, ar ôl i bapurau Panama ddangos ei fod wedi sefydlu ymddiriedolaeth fuddsoddi mewn hafan ddi-dreth yn y Bahamas.

“Roedd yn dad rhyfeddol, a dw i’n falch iawn o bopeth a wnaeth,” meddai.

“Ond rhaid imi beidio â gadael i hynny gymylu’r darlun. Y ffeithiau yw hyn: Fe brynais gyfranddaliadau mewn ymddiriedolaeth, ac fe dalais dreth arnyn nhw fel gydag unrhyw gyfranddaliadau.

“Fe werthais i’r cyfranddaliadau hynny. Mewn gwirionedd, fe werthais i bob cyfranddaliad a oedd gen i, wrth ddod yn Brif Weinidog.

“Ac ymhellach ymlaen, fe fyddaf yn cyhoeddi’r wybodaeth sy’n mynd ar fy ffurflen dreth, nid am eleni yn unig, ond am y blynyddoedd a fu, oherwydd mae arna i eisiau bod yn gwbl agored a thryloyw am y pethau hyn.

“Fi fydd y Prif Weinidog cyntaf, ac arweinydd cyntaf unrhyw blaid wleidyddol fawr, i wneud hynny, a dw i’n meddwl mai dyma’r peth iawn i’w wneud.”

Daw ei sylwadau ar ôl galwad gan arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, ar iddo wneud datganiad ffurfiol yn Nhŷ’r Cyffredin ar y mater.