David Cameron
Mae David Cameron wedi ceisio lleddfu’r tensiwn o fewn y Blaid Geidwadol drwy ganmol Iain Duncan Smith yn dilyn penwythnos o gecru.
Fe ymddiswyddodd yn annisgwyl o’i swydd fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ddydd Gwener.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth Aelodau Seneddol bod Iain Duncan Smith “cyfrannu’n helaeth i waith y Llywodraeth ac y dylai deimlo’n falch o’r hyn yr oedd wedi’i gyflawni.”
Ond roedd David Cameron hefyd yn gefnogol o’r Canghellor George Osborne sydd wedi bod dan bwysau i lenwi twll o £4 biliwn yn dilyn tro pedol ynglŷn â thoriadau arfaethedig i fudd-daliadau anabledd.
Mae’r Ceidwadwyr yn parhau’n blaid “fodern, drugarog, un genedl” meddai David Cameron, wrth iddo ganmol rôl y Canghellor wrth geisio gwella cyfleoedd i bobl ddifreintiedig.
Roedd Iain Duncan Smith wedi dweud ei fod yn ymddiswyddo am ei fod yn cael ei orfodi i gyflwyno toriadau i’r bobl fwyaf bregus tra bod Osborne yn rhoi toriadau treth i’r mwy cyfoethog a busnesau mawr.
Ond wfftio hynny wnaeth y Prif Weinidog gan ddweud wrth ASau bod y Llywodraeth yn parhau i greu swyddi, torri trethi i bobl ar gyflogau isel a chyflwyno isafswm cyflog.
‘Twll enfawr yn y Gyllideb’
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau newydd Stephen Crabb gadarnhau’n ddiweddarach y bydd y toriadau arfaethedig i’r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn cael eu sgrapio.
Ond roedd yr arweinydd Llafur Jeremy Corbyn wedi ymosod o’r newydd ar George Osborne, nad oedd yn bresennol yn y Senedd.
Dywedodd y dylai’r Canghellor “un ai dod yma i esbonio sut mae’n bwriadu llenwi’r twll enfawr” yn y Gyllideb “neu efallai fe ddylai ystyried ei sefyllfa ac edrych am rywbeth arall i’w wneud.”
Mae Corbyn wedi galw am sicrhad na fydd unrhyw doriadau pellach i gyllid yr Adran Waith a Phensiynau a allai olygu mwy o doriadau i bobl anabl.