Fe fu gostyngiad bach yn nifer y mewnfudwyr a ddaeth i’r DU yn ystod y chwarter diwethaf, yn ôl ffigurau newydd.

Roedd y ffigwr yn 323,000 ym mis Medi 2015 – sef 13,000 yn llai na’r nifer uchaf o 336,000 a gofnodwyd ym mis Mehefin y llynedd, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r gostyngiad bychan yn arwydd bod nifer y mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n dod i wledydd Prydain yn dechrau sefydlogi. Daw’r gostyngiad yn dilyn cynnydd yn nifer y ffigurau dros y 21 mis diwethaf.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi dweud bod y ffigwr yn parhau’n rhy uchel ond y bydd newidiadau i gyfyngu ar fudd-daliadau i fewnfudwyr, sydd wedi cael eu cytuno gyda David Cameron, yn arwain at ostyngiad, meddai.

Ond yn ôl arweinydd UKIP Nigel Farage, yr unig ffordd i ddod a nifer y mewnfudwyr o dan reolaeth yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y  refferendwm ym mis Mehefin.

Mae Theresa May ym Mrwsel ar hyn o bryd ar gyfer trafodaethau ynglŷn â sut i gyfyngu ar nifer y mewnfudwyr.

Dywed y Llywodraeth ei bod wedi’i ymrwymo i ddod a’r ffigwr o dan 100,000 erbyn yr etholiad nesaf yn 2020.

Dangosodd ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bod 165,000 o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd wedi dod i’r DU am resymau gwaith. Roedd gan 96,000, neu 58%, swydd i fynd iddi a daeth 69,000, neu 42% i chwilio am waith.