Mae'r Ceidwadwyr wedi gwneud mwy na'r Blaid Lafur i fynd ar ôl y cwmniau hynny sydd yn osgoi talu trethi, yn ôl David Cameron (llun: PA)
Mae David Cameron wedi mynnu bod y Ceidwadwyr wedi gwneud mwy nag unrhyw lywodraeth flaenorol i daclo’r cwmnïau mawr sydd yn osgoi talu trethi.
Fe wnaeth y Prif Weinidog ei sylwadau wrth amddiffyn y £130m mae Google wedi cytuno ei dalu i’r swyddfa drethi.
Cafodd y swm hwnnw ei herio yn Nhŷ’r Cyffredin gan arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn, a ddywedodd bod y cwmni cyfrifiadurol wedi gwneud elw o ryw £6bn ym Mhrydain rhwng 2005 a 2015.
Yn ôl arweinydd yr wrthblaid roedd y gyfradd dreth o 3% a dalodd Google yn dystiolaeth bod “‘un rheol yn bodoli i gwmnïau mawr, un arall i fusnesau bach”.
Herio record Llafur
Mynnodd David Cameron fodd bynnag nad oedd cwmnïau fel Google wedi gorfod talu unrhyw drethi pan oedd Llafur mewn pŵer, a bod llywodraeth y Glymblaid wedi codi £100bn yn ychwanegol gan fusnesau mawr rhwng 2010 a 2015.
“Gadewch i ni fod yn glir mai beth rydyn ni’n ei drafod yn fan hyn yw treth ddylai fod wedi cael ei gasglu gan lywodraeth Lafur, sydd wedi cael ei godi gan lywodraeth Geidwadol,” meddai’r Prif Weinidog wrth ymateb i Jeremy Corbyn.
“Rydw i’n anghytuno â’r ffigyrau rydych chi wedi’i roi, mae’n iawn fod rhain yn ffigyrau sydd yn cael eu gwneud yn annibynnol gan y Swyddfa Dreth.
“Ond rydw i’n bendant nad oes unrhyw lywodraeth wedi gwneud mwy i daclo’r rheiny sy’n osgoi trethi. Dim un llywodraeth, ac yn sicr nid y llywodraeth Lafur diwethaf.”