Mae David Cameron wedi dweud nad yw am ddiystyru gorfodi cytundebau newydd ar feddygon iau, os nad oes modd datrys yr anghydfod ynglŷn â thelerau ac amodau.
Yn dilyn streic 24 awr yr wythnos ddiwethaf, lle gohiriwyd tua 4,000 o lawdriniaethau, mae meddygon iau Lloegr wedi rhybuddio y gallan nhw gynnal dwy streic arall os nad ydyn nhw’n dod i gytundeb â’r Llywodraeth am gytundebau saith diwrnod yr wythnos.
Gallai’r streiciau gael eu cynnal am 48 awr ar Ionawr 26, ynghyd ag un arall ar Chwefror 10.
Ond, mae David Cameron wedi dweud y byddai cynnal mwy o streiciau yn “ddiangen ac yn niweidiol.”
Fe ddywedodd ei fod yn barod i barhau â’r trafodaethau, ond na fydd yn diystyru gorfodi’r amodau newydd i gontractau’r meddygon iau.
“Dw i ddim eisiau i’r sefyllfa streicio yma barhau. Yr hyn dw i eisiau ydy cyflawni’r hyn sydd yn ein maniffesto, sef cael GIG saith diwrnod yr wythnos, ac am hynny mae’n rhaid cael ychydig o newid yn y cytundebau.”
‘Gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos’
Fe esboniodd y Prif Weinidog fod angen gwasanaeth iechyd gwell, saith diwrnod yr wythnos. “Os ydych chi’n cael strôc ar y penwythnos, dych chi 20% yn fwy tebygol o farw.”
“Nid bai’r meddygon iau yw hyn. Yn aml yr achos yw nad oes cydbwysedd cywir rhwng ymgynghorwyr a meddygon iau, neu nad yw’r offer yn cael ei ddefnyddio’n gywir ar y penwythnos.”
Ond, mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi cwestiynu’r ffigwr o 20%, gyda 2,000 o feddygon wedi ysgrifennu at y Llywodraeth yn cwyno am yr awgrymiadau fod cysylltiad rhwng lefel staffio meddygon iau a’r marwolaethau dros y penwythnos.
“Mae’r ffigurau am farwolaethau yn ymwneud â strôc wedi’u tanseilio gan arbenigwyr strôc gan eu bod wedi dyddio ac yn gamarweiniol,” meddai Mark Porter, Cadeirydd Cyngor BMA.
“Mae’r GIG yn darparu safon uchel o ofal strôc ac mae’n syfrdanol fod y Llywodraeth yn beirniadu’n gyhoeddus un o’r gwelliannau mwyaf arwyddocaol yn y GIG.
“Bydd hyn yn cyflwyno pryder diangen i gleifion ac yn lleihau ymddiriedaeth y meddygon iau yn y modd mae’r Llywodraeth yn delio â’r trafodaethau.”