Mae dau o bobol wedi’u harestio, wedi i fwledi gael eu saethu at gerbyd ym maes parcio bwyty McDonald’s yng ngogledd ddwyrain Lloegr.

Mae Heddlu Humberside wedi cadarnhau iddyn nhw dderbyn galwad 999 gan aelod o’r cyhoedd am 11.35yb ddydd Sadwrn, yn dweud fod nifer o ergysion wedi’u tanio yn St Andrews Quay, yn Hull.

Fe gafodd car Volkswagen Golf lliw glas ei daro, meddai’r heddlu, ac fe gafodd ffenestri’r car eu chwalu gan rym yr ergydion.