Yn ei neges Nadolig, mae Prif Weinidog Prydain wedi dweud bod “gwerthoedd Cristnogol” y wlad wedi bod yn allweddol wrth gynnig cartref i bobol o bob ffydd, yn ogystal â’r rheiny sydd ddim yn grefyddol.

Fe wnaeth David Cameron bwysleisio pwysigrwydd heddwch a diogelwch ar adeg pan fo miliynau wedi’u gorfodi i ddianc o’r ymladd yn Syria.

“Dyna beth rydym yn ei nodi heddiw wrth i ni ddathlu genedigaeth unig fab Duw, Iesu Grist – Tywysog Tangnefedd,” meddai.

“Fel gwlad Gristnogol, rhaid i ni gofio’r hyn mae ei enedigaeth yn ei chynrychioli: heddwch, trugaredd, ewyllys da, ac uwchlaw popeth, gobaith.”

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r Prif Weinidog ddisgrifio Prydain fel “gwlad Gristnogol” yn ei neges Nadolig, er gwaethaf cyhuddiadau yn y gorffennol ei fod yn dieithrio pobol ac yn creu rhaniadau.

Dywedodd hefyd ei fod yn amser i gofio pobol a fydd ddim yn treulio’r gwyliau mewn cartref diogel gyda’u teuluoedd o’u cwmpas.

“Mae miliynau o deuluoedd yn treulio eu gaeaf mewn gwersylloedd i ffoaduriaid ar draws Syria a’r Dwyrain Canol,” meddai.

Fe dalodd deyrnged hefyd i’r sawl a fydd yn treulio’r Nadolig yn “helpu pobol fregus adref ac yn diogelu ein rhyddid tramor,” gan gyfeirio at y lluoedd arfog yn yr awyr yn Irac a Syria ac eraill ar draws Môr y Canoldir, Affganistan a De Sudan.

Corbyn ddim am gyhoeddi neges

Ni fydd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn cyhoeddi neges Nadolig. Yn hytrach bydd yn defnyddio’r flwyddyn newydd fel cyfle i gyfleu ei neges.