Mae babi claf canser o Fryste wedi marw wedi iddi gael ei geni 12 wythnos yn gynnar.

Penderfynodd Heidi Loughlin, 32, ohirio ei thriniaeth am ganser y fron wedi iddi ddarganfod ei bod hi’n feichiog.

Rhoddodd hi enedigaeth i’r ferch fach, Ally Louise Smith, drwy lawdriniaeth Gesaraidd ar Ragfyr 11, ond bu farw ddydd Sadwrn.